Cardiff University logo
Cymraeg

Newid bywydau

gyda gyrfa ym maes iechyd

Os ydych chi'n dechrau meddwl am eich gyrfa yn y dyfodol ac rydych chi’n angerddol dros helpu pobl, rydych chi wedi dod i'r lle iawn.

Yma gallwch ddysgu am amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous, heriol, a phwysig ym myd gofal iechyd sy’n gallu gwella ansawdd bywyd cleifion yn sylweddol. Mae pob un yn cynnig llawer o gyfleoedd i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a lles pobl mewn ffyrdd na fyddech erioed wedi'u dychmygu.  

Ydych chi wedi ystyried gyrfa ym maes iechyd?

Dentistry students
Dental therapy students
Radiographer thumbnail

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Mae deintyddion (sydd hefyd yn cael eu galw’n llawfeddygon deintyddol) yn weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy'n helpu i ofalu am ddannedd a cheg cleifion. Mae eu gwaith yn ymwneud fwyfwy â gwarchod dannedd ac atal y deintgig rhag pydredd a heintiau

Gan ddefnyddio cyfuniad o wyddoniaeth, technoleg arloesol a sgiliau datrys problemau, mae angen radiograffyddion diagnostig i helpu i roi diagnosis i gleifion a gwella gofal cleifion.

Gwell atal na gwella, a dyna pam mae hylenwyr deintyddol yn chwarae rhan mor bwysig o ran hybu a diogelu iechyd y geg.

Trainee doctor
Oncologist with patient
Trainee doctor

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Os oes gennych ddiddordeb mawr yn yr hyn sy’n achosi clefydau, eu heffeithiau, a phatrymau clefydau mewn grwpiau o bobl, yn hytrach nag unigolion, gallech fod wrth eich bodd â gyrfa fel epidemiolegydd.

Mae gan feddygon ystod eang iawn o gyfrifoldebau gan gynnwys cynnal ymgynghoriadau gyda chleifion, rhoi diagnosis o gyflyrau, a thrin eu cleifion i wella eu hiechyd a'u hansawdd bywyd.

Meddyg sy'n rhoi diagnosis, asesu, trin a rheoli cleifion â chanser yw oncolegydd. Eu nod yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob claf unigol.

Baby

Mae bod yn fydwraig yn rôl unigryw ac yn gymorth hanfodol i fenywod a'u babanod yn ystod pob cam o feichiogrwydd, esgor, a'r cyfnod ôl-enedigol cynnar.

Nurse students
Occupational therapy student

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Mae sawl math o nyrs, gydag arbenigeddau gwahanol sy'n cynnig byd o gyfleoedd, gan gynnwys nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl a nyrsio plant.

Mae therapydd galwedigaethol yn helpu pobl o bob oedran i oresgyn effeithiau anabledd a achosir gan salwch, heneiddio neu ddamwain fel y gallant gyflawni tasgau pob dydd.

Optometry students

Mae gallu gweld yn glir yn chwarae rhan hanfodol yn ein hiechyd a'n lles cyffredinol. Mae Optometryddion yn cynnig gwasanaeth hanfodol ar fonitro iechyd y llygaid, gofal, a chywiro golwg.

Paediatrician with child patient
Pharmacy students

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Mae meddygon pediatrig yn cefnogi plant a phobl ifanc sy'n wynebu amrywiaeth o gyflyrau iechyd gwahanol, yn ogystal â chysylltu â'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr yng ngwyddor meddyginiaethau a’r defnydd ohonynt. Maent yn helpu cleifion i oresgyn pob math o broblemau iechyd ac mae rhai yn rhagnodi meddyginiaethau hefyd, yn union fel meddyg.

Physiotherapy students

Mae ffisiotherapydd yn helpu i pobl i symud a gwella rhannau o’r corff pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun. Gallant hefyd helpu i atal anafiadau neu salwch yn y dyfodol.

Psychology student
Surgery students

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Byddwch yn 

Er eu bod yn draddodiadol gysylltiedig ag iechyd meddwl, mae galw cynyddol am seicolegwyr mewn meysydd eraill lle mae angen deall, rhagweld a newid ymddygiad dynol.

Mae llawfeddyg wedi'i hyfforddi'n arbennig i roi llawdriniaeth i gleifion er mwyn atgyweirio, tynnu, amnewid neu asesu rhannau o'r corff sydd wedi'u heintio neu eu niweidio.

Medical oncologist student

Byddwch yn 

Mae radiograffwyr therapiwtig yn chwarae rhan weithredol yn ymladd canser ac yn rhoi gobaith i'r rhai sy'n cael diagnosis o'r clefyd.

Porwch drwy ein pynciau

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnig ystod eang o raglenni gradd i roi hwb i'ch gyrfa ym maes iechyd.

Hawlfraint Prifysgol Caerdydd 2022