I Gynfyfyrwyr,Gan Gynfyfyrwyr

Oes gennych chi rywbeth i’w rannu gyda’r gymuned o gynfyfyrwyr? Rhannwch eich syniadau gyda ni.

Rydym yn gwybod fod ein cynfyfyrwyr yn griw gwybodus, creadigol a diddorol, felly rydym wedi penderfynu trosglwyddo’r awenau iddyn nhw yn ein segment newydd: I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr.
Rydym yn chwilio am gyfranwyr i ysgrifennu darnau rhwng 350 - 750 gair, a fyddwn yn eu rhannu ar ein blog, yn ein cylchlythyr misol Cyswllt Caerdydd, ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Dewiswch bwnc sy’n agos at eich calon neu faes arbenigedd. Nid oes thema benodol, ond rydym yn chwilio am ddarnau fydd yn ysbrydoli, ennyn a thanio chwilfrydedd yn eich cyd-gynfyfyrwyr.


Efallai eich bod yn rhan o brosiect cymunedol anhygoel, sy’n gwneud newidiadau er gwell. Ydy eich ymchwil neu eich sefydliad yn arloesol ac yn datrys problemau? Ydy eich gwaith yn galluogi neu’n hyrwyddo amrywiaeth? Allwch chi roi llais arbenigol neu fwrw goleuni ar faterion cyfoes? Rydym hefyd gyda diddordeb mewn darnau sy’n rhannu eich atgofion o’ch amser yng Nghaerdydd, neu’n arddangos eich diddordebau.


Os hoffech gymryd rhan, llenwch y ffurflen a rhannwch eich syniad gyda ni. Gwyddom y bydd llawer ohonoch â diddordeb, felly byddwch yn ymwybodol efallai na fyddwn yn gallu defnyddio pob syniad neu gyflwyniad.

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o Brifysgolion Grŵp Russell

Mae Prifysgol Caerdydd yn elusen gofrestredig. Rhif 1136855

Hawlfraint © Prifysgol Caerdydd