Rydym ni'n sefyll dros_

Werth Cyhoeddus

Croeso i Ysgol Busnes Caerdydd – 

yr Ysgol Busnes gyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar Werth Cyhoeddus.

Rydym ni’n Ysgol Busnes sydd â phwrpas ac mae ein cenhadaeth yn glir – cael effaith gadarnhaol ar y byd. Nawr yw'r adeg i sefyll ar eich traed a chael eich cydnabod am eich cyfraniad i gymdeithas. Rydym yn rhoi gwerth ar fwy na llwyddiant economaidd yn unig. Rydym am ddod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes.

Mae'n ddyletswydd arnom i gyd i helpu i gynnal ein heconomïau lleol a byd-eang, a hynny ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a chenedlaethau presennol.

Gwerth Cyhoeddus yw'r enw sydd gennym am hyn.

Hwn yw ein pwrpas, a dyma rydym yn ei hyrwyddo.

Beth ydych chi’n ei hyrwyddo?

Gyda'n gilydd, rydyn ni'n newid busnes am byth...

Rachel Ashworth

Rwy'n sefyll dros y _genhedlaeth nesaf

“Mae angen i ni ddychmygu sut gall y byd fod yn wahanol. Rydym yn ystyried materion o sawl safbwynt ac yn herio’r sefyllfa sydd ohoni. Fel arfer, nid yw ysgolion busnes yn eglur am gael effaith fawr ar gymdeithas, ond dyna’n union rydym ni’n ei wneud. Hon yw’r genhedlaeth sy’n mynd i unioni pethau.”

Yr Athro Rachel Ashworth

Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Nigel Williams

Rwy'n sefyll dros_bwrpas

“Fel rheolwr pobl, fy man cychwyn bob amser yw ceisio cysylltu pwrpas yr unigolyn â phwrpas y sefydliad. Pan fydd cysylltiad uniongyrchol rhyngddynt, rydym ni'n sicrhau canlyniadau gwell a phobl hapusach.

Nigel Williams 

Gweinyddu Busnes (MBA 2022)

Apoorva Shridhar

Rwy'n sefyll dros_gydraddoldeb rhywedd 

"Nid dim ond i fenywod mewn busnes mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig. Mae cwmnïau sydd ag arweinyddiaeth gynhwysol ac amrywiol hefyd yn gwneud penderfyniadau gwell. Maen nhw'n fwy llwyddiannus ac yn helpu i adeiladu cymdeithas decach a gwell."

Apoorva Shridhar 

Gweinyddu Busnes (MBA 2022)

Professor Peter Wells

Rwy'n sefyll dros_ gyfrifoldeb 

“Heddiw, rydym yn wynebu angen dybryd am newid ar lefel fyd-eang. Fodd bynnag, y lefel leol, unigol yw'r un y gallwn ni gyfrannu iddi yn ein ffordd gadarnhaol ein hunain. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wneud hyn. Mae cysylltu pethau byd-eang â phethau lleol yn ein helpu i ddeall sut. 

Yr Athro Peter Wells

Dirprwy Ddeon Gwerth Cyhoeddus

Bethany Brown

Rwy’n sefyll dros_ddiogelwch yn y gwaith 

“Dylai gweithle fod yn lle diogel. Mae angen i bobl ddod i'r gwaith a gallu defnyddio eu sgiliau, boed hynny'n golygu eu creadigrwydd, eu harloesedd, eu dadansoddi neu eu data. Mae angen llawer o wahanol fathau o bobl arnom ac iddynt deimlo'n ddiogel er mwyn llwyddo.

Bethany Brown 

Rheoli Busnes gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (MSc 2021)

Professor Arman Eshraghi

Rwy'n sefyll dros_gynhwysiant ariannol

“Mae anghydraddoldeb economaidd yn cynyddu ledled y byd. Gallai gwella lefelau llythrennedd ariannol fod yn allweddol i greu cymdeithas decach a mwy cynhwysol. Mae grymuso pobl i wneud penderfyniadau ariannol da yn helpu cymunedau ehangach i ffynnu.

Yr Athro Arman Eshraghi

Athro Cyllid a Buddsoddi

Hawlfraint 2022. Cedwir pob hawl.