Gwnewch wahaniaeth

Dechrau eich gyrfa fel gweithiwr gofal iechyd

Mae eich siwrnai gyda Phrifysgol Caerdydd ar fin dechrau...

Ar fin cymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa? Ydych chi am ddewis cwrs sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn?

Tarwch olwg ar ein hystod lawn o gyrsiau gofal iechyd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, a dechrau eich gyrfa gofal iechyd yn un o brifysgolion rhagorol Grŵp Russell.


Cyrsiau hygyrch, darlithwyr ysbrydoledig a ffrindiau fydd gyda chi gydol oes - dyma beth sydd ar gael yn y ddinas anhygoel hon.

Gwnewch wahaniaeth heddiw

Dechreuwch ar yrfa y byddwch yn falch ohoni. 

Rydym yn falch o allu dweud bod ein myfyrwyr yn bobl garedig, empathetig ac uchelgeisiol, sydd am wneud gwahaniaeth.


Dewisodd Jamie astudio bydwreigiaeth ar ôl ei phrofiad hi ei hun o roi genedigaeth, ac roedd hi am wneud argraff personol ar brofiadau mamau newydd eraill.


Yn dilyn yr amser a dreuliodd ym maes gofal iechyd, tyfodd chwilfrydedd Rhys gyda Ffisiotherapi, a sut allai ddefnyddio hynny i helpu pobl i wella.


Gan ddilyn ôl troed ei deulu a chwilio am swydd fyddai’n helpu pobl ac yn golygu mwy, dewisodd Gavin ddilyn gyrfa ym maes Nyrsio Iechyd Meddwl.


Dyma straeon go iawn ein myfyrwyr gofal iechyd sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.


Gallech chi fod yn eu plith hefyd.

Ein cyrsiau gofal iechyd

Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu (BSc)

"Mae gen i’r hyder erbyn hyn i fynd i helpu pobl."

- Ashleigh

Nyrsio Iechyd Meddwl (BN)

"Mae helpu pobl wedi bod yn uchelgais gen i erioed, a dyna fy rheswm dros ddewis yr yrfa hon."

- Gavin

Nyrsio Oedolion (BN)

"Sylweddolais fy mod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl."

- Dion

Bydwreigiaeth (BMid)

"Rydw i wrth fy modd yn bod yno ar gyfer menywod, ac yn cynnig llais ar eu cyfer."

- Jamie

Therapi Galwedigaethol (BSc)

"Prifysgol Caerdydd yw’r un orau yn ei maes ar gyfer Therapi Galwedigaethol."

- Liam

Nyrsio Plant (BN)

"Rwyf wrth fy modd bod y cwrs yn 50% theori a 50% ymarfer."

- Billie

Ffisiotherapi (BSc)

"Mae’n rhoi boddhad mawr i mi wrth fy swydd i allu helpu pobl yn ddyddiol."

- Rhys

Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)

"Mae’r lleoliadau’n golygu eich bod yn cael defnyddio’r hyn a ddysgoch ar unwaith."
- Jake

Pam Prifysgol Caerdydd?

Drwy adeiladu cysylltiadau ar draws y ddinas, mae Prifysgol Caerdydd yn elwa ar gysylltiadau cryf ag Ysbyty Athrofaol Cymru, y trydydd Ysbyty Athrofaol mwyaf yn y DU, a’r mwyaf yng Nghymru.


Gosodwyd y Brifysgol, sy’n rhan o’r Grŵp Russell, ar frig rhestr prifysgolion Cymru gan y Complete University Guide 2023. Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd hefyd ymhlith y deg uchaf ar gyfer Therapi Galwedigaethol, Nyrsio a Ffisiotherapi.

Safon yr addysgu a’r ymchwil oedd yr hyn wnaeth fy nenu. Rwy’n hoff iawn o’r campws, yr adeiladau a’r awyrgylch

Cefais fy nenu gan enw da’r sefydliad – rwy’n uchelgeisiol iawn, felly roeddwn am wneud yn siŵr fy mod am ennill cymwysterau o’r radd flaenaf.

Sylwia, Nyrsio Iechyd Meddwl, Prifysgol Caerdydd

Eisiau gwybod mwy?

Rydym yn falch iawn bod gennych 

ddiddordeb mewn astudio gyda ni!

I gael help gyda'ch cais, neu os oes gennych 

unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni:

hcareadmissions@caerdydd.ac.uk

+44 (0)29 2068 7538


Gallwch hefyd ymweld â 'Sut i wneud cais' i wneud cais' ar wefan Prifysgol Caerdydd, i gael mwy o wybodaeth.

Mae Caerdydd yn eich disgwyl bob bore

Mae Caerdydd, sy’n enwog am ei henaid a’i hegni, yn ddinas heb ei thebyg.


Prifddinas Gymreig gyfeillgar sy'n teimlo fel cartref oddi cartref.


Mae’n cynnig ymdeimlad o gymuned ac uchelgais - y cyfuniad perffaith i fyfyrwyr, p’un a ydych newydd orffen astudio, neu’n newid gyrfa er mwyn gwireddu eich amcanion.

Mae popeth gerllaw. Gallech fod ar y traeth neu’n dringo mynydd o fewn awr.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig Bwrsariaeth y GIG ar gyfer fy nghwrs, felly bu gallu hyfforddi heb straen ffioedd prifysgol yn fantais enfawr i mi.

Jonathan,  Ffisiotherapi, Prifysgol Caerdydd

Beth nesaf?

Os ydych yn barod i wireddu eich potensial fel myfyriwr gofal iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch i wneud cais, neu holwch am ragor o wybodaeth. 

01

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch am eich opsiynau ym Mhrifysgol Caerdydd.

02

Anfonwch ebost

Anfonwch ebost atom os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais.

03

Siaradwch â ni

Ffoniwch ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais.

04

Gwnewch gais nawr

Barod i ddechrau ar eich gyrfa ym maes gofal iechyd? Gwnewch gais nawr.

Ydych chi am wneud gwahaniaeth?

Ewch ati i wneud cais heddiw er mwyn 

dechrau eich gyrfa ym maes gofal iechyd...

© 2023 Two-Step. Cedwir pob hawl.

Gwefan gan BR