Mynd amdani!

I raddedigion y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, mae byd o bosibiliadau’n aros. I ble fyddwch chi’n mynd?

Mentrwch arni ym Mhrifysgol Caerdydd.

Pam dewis y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol?

Hyd yn oed os nad yw'ch gyrfa wedi'i mapio allan, dylech chi fwynhau'r hyn rydych chi'n ei ddysgu.


Pan fyddwch chi'n astudio'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, gallwch ddewis gradd rydych chi'n teimlo'n angerddol yn ei chylch - gan wybod y byddwch chi'n ddeniadol iawn i’ch cyflogi ar ôl graddio, gyda sgiliau y gellir eu defnyddio ar draws cynifer o ddiwydiannau.

Yn wir, mae wyth o’r deg sector sy’n tyfu gyflymaf yn y DU yn cyflogi mwy o raddedigion y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol nag unrhyw ddisgyblaethau eraill*.


Felly hyd yn oed os nad ydych yn gwybod i ble'r ydych yn mynd eto, byddwch yn gwybod eich bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn.

Gwirioni ar yr hyn rydych chi’n ei ddysgu

Mae astudio pwnc rydych chi’n ei garu yn golygu y gallwch ddarganfod a siapio eich dyfodol gydag angerdd. Boed hynny’n saesneg, cerddoriaeth, newyddiaduraeth, ieithoedd, cyfuniad neu rywbeth arall yn gyfan gwbl, dewiswch gyda’ch pen a’ch calon.

Diogelu eich dyfodol

Mae graddedigion y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol yn gyflogadwy iawn (88% mewn cyflogaeth*), gan ddringo'r ysgol yrfa a chyflog tra'n parhau i fod yn wydn i'r newid economaidd*.

Dangoswch eich sgiliau

Cewch sicrhau'r sgiliau sy'n werthfawr i gyflogwyr nawr ac yn y dyfodol. Fel dysgwr annibynnol, meddyliwr beirniadol a datryswr problemau creadigol, bydd galw mawr arnoch* ar draws ystod o ddiwydiannau, gan roi rhyddid a hyblygrwydd gyrfa i chi.

Straeon graddedigion

Barn ein myfyrwyr

Pa gwrs fydd yn lansio eich dyfodol?

Cyfrifeg a Chyllid

Cyfle i ganfod eich lle ym maes cyfrifeg a chyllid byd-eang, disgyblaethau craidd sydd wrth galon pob sefydliad llwyddiannus, drwy ddatblygu'r wybodaeth broffesiynol a'r sgiliau ymarferol i droi eich dysgu'n ymarfer ar gyfer datblygu eich gyrfa yn gyflym.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Hanes yr Henfyd

Archwilio strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol gwareiddiadau hynafol dros ddwy filiwn o flynyddoedd gan ganolbwyntio ar themâu sy’n berthnasol ac yn dylanwadol yn y byd sydd ohoni heddiw.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Archaeoleg a Chadwraeth

Astudio olion materol cymdeithasau a diwylliannau’r gorffennol – o dirweddau, adeiladau a henebion i weddillion bwyd a gwrthrychau bob dydd – er mwyn deall a chadw’r profiad dynol yn well.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Rheoli Busnes

Cewch ddatblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol i wneud eich marc mewn marchnad fyd-eang gystadleuol, gan droi theori'n ymarfer effeithiol, a diddordeb yn angerdd i wneud newid cadarnhaol mewn busnes a chymdeithas.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Economeg

Cyfle i archwilio economeg yng nghyd-destun heriau gwleidyddol-gymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol cyfoes. Boed gyflogau a chyfoeth, yr amgylchedd ac ynni neu iechyd a digartrefedd, go brin y bu gan economegwyr erioed y fath ddylanwad yn y drafodaeth ar faterion sy’n effeithio ar ein cymunedau.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Iaith a Llenyddiaeth Saesnege

Cyfle i archwilio amrywiaeth Llenyddiaeth Saesneg ar draws y rhychwant cronolegol neu ystyried gallu'r ddynoliaeth ar gyfer iaith, gan ganolbwyntio ar y croestoriad difyr gyda diwylliant, cymdeithas, gwleidyddiaeth a'r meddwl.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Hanes

Ymchwilio i fydoedd a phrofiadau’r gorffennol gan ehangu eich gwybodaeth am newid hanesyddol er mwyn deall ein presennol yn well, a gwella ein dyfodol.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Daearyddiaeth Ddynol

Archwilio pobl, lleoedd a gofodau a helpu i ddatrys yr heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol cyfoes byd-eang sy’n effeithio ar sut a ble rydyn ni’n byw.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Y Gyfraith

Ni fu astudio’r Gyfraith erioed yn fwy amserol na phwysig. Yn ogystal â'r dimensiynau cyfreithiol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol-wleidyddol cenedlaethol a rhyngwladol, mae'n bwnc sy'n berthnasol ac yn ymwneud yn uniongyrchol â bron pob agwedd ar sut rydym yn byw ein bywydau.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Newyddiaduraeth

Mae diwydiant y cyfryngau yn dominyddu ein bywydau ac yn diffinio sut rydyn ni’n byw. Mewn cyfnod o globaleiddio a newid cymdeithasol sylweddol, ystyriwch ei effaith ar gymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant poblogaidd, a’i rôl yn y gymdeithas honno.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Ieithoedd Modern

Mewn byd o drafodion busnes rhyngwladol a chysylltedd digidol, mae astudiaethau iaith arbenigol yn agor diwylliannau a chyfandiroedd i ni i’w harchwilio a hefyd yn cynnig y sgiliau i dramwyo’n llwyddiannus drwy’r byd rhyngwladol yr ydym yn byw ynddo heddiw.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Cerddoriaeth

Mae cerddoriaeth yn aml yn treiddio i bob agwedd ar ein bywydau, gan ysgogi effaith emosiynol gref ac uniongyrchol. Gall feithrin dychymyg, datblygu deallusrwydd emosiynol, iaith a rhesymu, a helpu i feithrin ymdeimlad o gymuned a gwaith tîm.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Athroniaeth

Dadansoddi a chreu cadwyni rhesymu cymhleth i ystyried posau athronyddol mawr y gorffennol a’r presennol a mynd i’r afael â chwestiynau cymhleth sy’n effeithio ar ein heddiw ni.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Cynllunio

Ymchwilio i sut mae cynllunio’n siapio’r ffordd rydyn ni’n byw, yn teithio ac yn rhyngweithio â phobl a lleoedd, ac archwilio sut gallai gwell ymarfer a pholisi fod o fudd i’n hiechyd, ein cyfoeth a’n lles ni i gyd.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Gwleidyddiaeth

Ble bynnag y byddwch yn edrych, mae gwleidyddiaeth wrth galon y stori ddynol. Mae astudio gwleidyddiaeth yn golygu dysgu am y syniadau, y sefydliadau a’r arferion amrywiol sy’n siapio cymdeithas a’r ffordd rydyn ni’n trefnu ein bywydau, ac ymdrin yn feirniadol â nhw.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Astudiaethau Crefyddol

Archwilio hanes, diwylliannau a chredoau traddodiadau crefyddol mawr a llai adnabyddus er mwyn deall pwrpas bywyd, natur y cosmos a’r sylfaen ar gyfer ymddygiad dynol.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Gwyddorau Cymdeithasol

Ni fu erioed yn bwysicach deall ymddygiad, agweddau a chymhellion pobl a sut mae cyfle (a llwyddiant) yn cael eu siapio gan ryngweithio â’r sefydliadau a’r strwythurau sydd o’n cwmpas.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Cymraeg

Ennill sgiliau a dealltwriaeth o iaith, llenyddiaeth, treftadaeth a hunaniaeth i helpu i lunio a dylanwadu ar ddyfodol cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru.

Darganfyddwch fwy a gweld cyrsiau →

Pam Prifysgol Caerdydd?

Rydyn ni’n brifysgol uchelgeisiol ac arloesol gyda gweledigaeth strategol a beiddgar mewn prifddinas hardd a ffyniannus.


Byddwch yn elwa ar amrywiaeth o gyfleoedd i gael profiad proffesiynol ar leoliad neu ehangu eich gorwelion drwy astudio dramor. A bydd ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr (sydd wedi'u lleoli yn ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr newydd sbon) wrth law i'ch helpu i lywio eich blynyddoedd myfyrwyr a rheoli eich iechyd a'ch lles corfforol a meddyliol.

Ydych chi’n barod...  amdani!

Ewch ar y trywydd sy’n tanio eich brwdfrydedd – mae astudio yr hyn rydych chi’n ei garu yn ffordd wych o ddechrau eich taith. Cymerwch gam at eich dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd.

*Adroddiad yr Academi Brydeinig - Qualified for the Future, 2020

Copyright © 2022. All rights reserved.